Ir gaingc a elwir Symlen.
1 Dyscais ryw baradwys-gaingc
2 ar dwylaw mau ar dâl maingc
3 Ar dysciad diwygiad dyn
4 eurai dalm ar y delyn
5 A hon yw'r gaingc ar faingc fau
6 o blith oed o blethiadau
7 o deilyng-fawl edling-ferch
8 a brydais i a brwyd serch
9 [213r] Meddant ferched y gwledydd
10 am danafi o'm dawn fydd
11 Symlen yw'r gaingc os amlwg
12 a Symlyn yw'r dyn ai dwg
13 Solffeais o'm salw ffuaint
14 Salm rwydd is aelaw y mraint
15 Ac orddigan gan y gaingc
16 gareuaidd medd gwyr ieuaingc
17 Coel vfudd-bwngc celfydd-bêr
18 cael i'm glod neud cwlm y glêr
21 Gwae fi na chlyw mawr yw 'r aing
22 Dydd-gu hyn o brydydd-gaingc
23 Os byw hi ai clyw îs Clwyd
24 ysbys-lef eos beis-lwyd.
25 Addysc hildr oddis cil-dant
26 gormodd cerdd gwr meddw a'i cant
27 Llef eur-loew fygr llafar-lais
28 lleddf ddatbing llwybr sawdring Sais
29 Ni wnaeth pibydd ffraeth o Ff[ ]ingc
30 Na phen-cerdd ryw saffan-caingc
31 Poed annolo fo i fîn
32 Ai gywydd a'i ddeg ewin
33 A gano cerdd ogoniant
34 ni cherydd Duw na cherdd dant
35 Gwiw loew-glaer ddyn golyglon
36 ac yn cael canu 'r gaingc hon.
dd ap Gwilym